Like Quozio? You'll ❤️ Quozio Pro! Check it out.
"Ar Lan Y Môr Lyrics Ar lan y môr mae rhosys chochion Ar lan y môr mae lilis gwynion Ar lan y môr mae 'nghariad inne Yn cysgu'r nos a chodi'r bore. Ar lan y môr mae carreg wastad Lle bum yn siarad gair â'm cariad O amgylch hon fe dyf y lili Ac ambell sbrigyn o rosmari. Ar lan y môr mae cerrig gleision, Ar lan y môr mae blodau'r meibion, Ar lan y môr mae pob rhinweddau, Ar lan y môr mae nghariad inne. Tros y môr y mae fy ngalon, Tros y môr y mae f'ochneidion, Tros y môr mae f'anwylyd Sy’n fy meddwl i bob munud. Llawn yw'r môr o swnd a chregyn Llawn yw'r wy o wyn a melyn Llawn yw'r coed o ddail a blode Llawn o gariad merch wyf inne."